Ychwanegwch eich enw chi i'r llythyr agored hwn i Fanc Barclays:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn siomedig gyda chyhoeddiad diweddar Barclays i gau’r gangen banc leol yn Porthmadog, Gwynedd.
Nid ydym yn cytuno â chyngor Barclays y dylai pob cwsmer symud i fancio ar-lein oherwydd nad oes gan bawb fynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Dwyfor Meirionnydd lle mae cysylltedd digidol dibynadwy yn broblem. Mae llawer o bobl hŷn hefyd yn amharod i ddefnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer unrhyw faterion ariannol.
Wrth i'n cymunedau wella o effeithiau COVID, dylid cadw gwasanaethau wyneb yn wyneb er mwyn cefnogi pobl fregus mewn cymunedau bregus. Bydd dod â gwasanaethau bancio i ben ym Mhorthmadog yn cael effaith andwyol a phellgyrhaeddol ar elusennau a grwpiau cymunedol yn yr ardal sy'n aml yn dibynnu ar arian parod.
Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o orfod teithio pellteroedd mawr i gyrraedd cangen banc: mae 7.5% o gartrefi yn gorfod teithio 16km neu fwy.
Rydym yn galw ar Fanc Barclays i gefnogi trigolion a busnesau lleol ym Mhorthmadog trwy gadw gwasanaethau bancio yn y dref. Rydym yn fawr obeithio y bydd Barclays yn ailystyried yr ergyd ddinistriol hon i Borthmadog
Yr eiddoch yn gywir,
Ychwanegwch eich enw isod 👇