Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi cadarnhau y bydd yn cefnogi’r Mesur Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) yn ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Dywedodd Mrs Saville Roberts ei bod yn bwriadu cefnogi’r Mesur ar ei Ail Ddarlleniad ar yr amod bod sicrwydd o graffu digonol pe bai’r Mesur yn cael ei basio i gyfnod y Pwyllgor.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Y man cychwyn i lawer ohonom heddiw yw sut i ddatrys y cyfyng-gyngor ‘yr hyn rwyf ei eisiau i mi fy hun’ gyda’r ofn o alluogi canlyniadau a allai fod yn ofnadwy i eraill. Mae yna ofn rhesymegol ynghylch sut y bydd pwysau sefydliadol, diffyg adnoddau ac - yn ofnadwy - diwylliant o fewn y GIG yn cynyddu hwylustod marwolaeth fel opsiwn fforddiadwy. Nid yw hyn yn ofn newydd: dywedodd adolygiad y Farwnes Neuberger o Lwybr Gofal Lerpwl, 'Er mwyn i bawb sy'n marw yn y sector acíwt allu gwneud hynny ag urddas, mae'n rhaid i'r sefyllfa bresennol newid. Roedd hynny yn 2013. Rydym yn gwybod, ar ôl Covid, cyn lleied sydd wedi newid. Ni fu marwolaeth fel cyfleustra sefydliadol erioed ac ni fydd byth yn iawn. Ein dyletswydd ni yw mynnu gofal lliniarol da. Ond nid yw hyn yn drwydded i ochr-gamu cwestiwn moesegol heddiw. Mae pobl Cymru a Lloegr yn disgwyl i ni fel deddfwyr roi ateb mewn egwyddor. Ein gwaith ni yw darparu'r ateb hwnnw nid yn unig mewn egwyddor ond hefyd mewn proses. Gyda hyn mewn golwg, byddaf yn cefnogi'r Mesur hwn ar ei Ail Ddarlleniad os oes sicrwydd o graffu digonol i bwytho dilledyn cyflawn o'r hyn sydd ar hyn o bryd yn edafedd y gellid ei dynnu'n gareiau yn y llysoedd. Os na all gwaith craffu y pwyllgor Mesur wneud y Mesur hwn yn gadarn, byddaf yn ailystyried fy nghefnogaeth mewn pleidleisiau yn y dyfodol. A all y Tŷ hwn sicrhau bod cynrychiolaeth drawsbleidiol a phleidiau bach ar y pwyllgor mesur yn hytrach na chymesuredd plaid confensiynol? Mae’r goblygiadau i Gymru – lle mae iechyd wedi’i ddatganoli wrth gwrs – yn galw am ystyriaeth briodol. Mae hyn yr un mor wir am gymunedau anghysbell a difreintiedig lle mae pobl sy'n sâl ac yn marw eisoes yn dioddef gwasanaethau iechyd anghymesur o annigonol. Hoffwn dalu teyrnged i Iola Dorkins of Forfa Nefyn, yr wyf yn ei hadnabod ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac sy'n marw o glefyd motor niwron. Mae hi'n gwisgo brês y mae ei gŵr wedi'i addasu i'w gwneud hi'n fwy cyfforddus. Heddiw, mae hi mewn seibiant mewn hosbis yng Nghaergybi, hanner can milltir o'i chartref. Dyna realiti bywydau pobl fel y mae pethau. Mae angen newid yn y gyfraith.'
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
Rwy’n credu mewn agwedd dosturiol ac urddasol at farw â chymorth. Mae gorfodi pobl i ddioddef bywyd gyda phoen corfforol neu emosiynol difrifol yn annynol, a gallai dad-droseddoli ddod â mesurau diogelu a rheoleiddio gwell. Ochr yn ochr â’r ystyriaethau hyn, rhaid i ni wella gofal lliniarol, cyn ac ar ôl unrhyw bleidlais ar farw â chymorth. Ni ddylai cymorth i farw byth gael ei ystyried fel dewis amgen o fynd i’r afael â’r methiannau o fewn y GIG wrth gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn ystod rhai o eiliadau anoddaf bywyd. Ni ddylai'r Llywodraeth ychwaith roi blaenoriaeth i ddad-droseddoli marw â chymorth dros ymdrechion i wella cyflwr digalon gofal cymdeithasol. Rhaid i ni sicrhau bod digon o graffu ar y ddeddfwriaeth hon, sydd wedi’i gosod i wneud newid sylfaenol yn natur y gyfraith sy’n ymwneud ag uchafiaeth gyfreithiol amddiffyn yr hawl i fywyd. Mae cyfraith dda yn dibynnu ar fanylion ac eglurder, yn enwedig yn y diffiniad o dermau megis gallu, a chyfrifoldeb unigolion. Dyma’r darn mwyaf pellgyrhaeddol o ddeddfwriaeth gartref y bydd y genhedlaeth hon o ASau yn gyfrifol amdani: mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn gwneud hyn hyd eithaf ein gallu.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter