Mesur Cymorth i Farw

Mesur Cymorth i Farw

Mae Plaid Cymru yn ystyried cymorth i farw yn fater o gydwybod ac ni fyddent yn chwipio ei ASau mewn unrhyw bleidlais seneddol yn y dyfodol. Credwn ei bod yn hollbwysig cynnal pleidlais ac ymdrin â’r mater gyda’r sensitifrwydd mwyaf. Rhaid peidio â rhuthro deddfwriaeth drwy’r Senedd gan y byddai hynny’n atal ystyriaeth lawn o’r goblygiadau moesegol ac ymarferol. Rwy’n credu mewn agwedd dosturiol ac urddasol at farw â chymorth. Mae gorfodi pobl i ddioddef bywyd gyda phoen corfforol neu emosiynol difrifol yn annynol, a gallai dad-droseddoli ddod â mesurau diogelu a rheoleiddio gwell. Ochr yn ochr â’r ystyriaethau hyn, rhaid i ni wella gofal lliniarol, cyn ac ar ôl unrhyw bleidlais ar farw â chymorth. Ni ddylai cymorth i farw byth gael ei ystyried fel dewis amgen o fynd i’r afael â’r methiannau o fewn y GIG wrth gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn ystod rhai o eiliadau anoddaf bywyd. Ni ddylai'r Llywodraeth ychwaith roi blaenoriaeth i ddad-droseddoli marw â chymorth dros ymdrechion i wella cyflwr digalon gofal cymdeithasol.


Liz Saville Roberts AS


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Safbwynt Polisi 2024-10-24 11:41:02 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.