AS LLEOL YN CROESAWU PRYNWR I FFATRI GAWS YM MINFFORDD

Mae Futura o Swydd Gaerloyw - un o'r cyflenwyr caws cyfandirol mwyaf i'r DU ac Iwerddon - wedi prynu ffatri GRH Foods ym Minffordd.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, ‘Rwy’n croesawu’r newyddion bod prynwr wedi’i ddarganfod ar gyfer hen ffatri bwydydd GRH ym Minffordd, gan sicrhau dyfodol cynhyrchu caws ar y safle strategol hwn.

‘Dyma gyfleuster o’r radd flaenaf gyda’r dechnoleg cynhyrchu caws ddiweddaraf ac rwy’n falch bod cynlluniau ar waith nawr i ailgychwyn gweithgynhyrchu cyn gynted â phosibl.

‘Mae gen i gyfarfod gyda Futara Foods yr wythnos nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at drafod eu cynlluniau yn fwy manwl, lle byddaf yn pwyso i weld swyddi lleol yn dychwelyd i’r safle.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.