ANNOG BWRDD IECHYD I DDEFNYDDIO YSBYTAI ENFYS I DRIN CLEIFION

Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru a Chadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio ysbytai enfys gogledd Cymru i helpu i ddelio â chleifion ar draws y gogledd sy’n aros am driniaeth.   

Dengys ffigurau gan y Cyngor Iechyd Cymunedol bod nifer cleifion BIPBC sy'n aros mwy na phedair wythnos am driniaeth wedi cynyddu bedair gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ar 31 Gorffennaf 2020, roedd 30,167 yn aros dros 36 wythnos am driniaeth, o'i gymharu ag 8,900 yn 2019. 

Dywedodd y Cyng. Mabon ap Gwynfor,  

‘Mae’n ddealladwy bod rhestrau aros wedi cynyddu oherwydd pandemig Covid-19. Mae’n ddigon rhesymol fod adnoddau wedi cael eu targedu i ddelio â’r argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn, ond ni all hyn fynd ymlaen am byth.’ 

‘Nid yw ‘Covid-19 yn mynd i fynd i ffwrdd unrhyw bryd yn fuan. Fel mathau eraill o firws Corona, mae’n debygol y bydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda Covid-19, ac felly rhaid i ni gynllunio ac addasu ar gyfer y newid hwn.’ 

‘Ond nid yw ein system iechyd gyfredol wedi’i chynllunio i redeg dau wasanaeth cyfochrog. Fel y mae pethau, ni allwn redeg gwasanaeth iechyd confensiynol ochr yn ochr â gwasanaeth adweithiol sy'n delio ag anrhagweladwyedd a phwysau pandemig firaol.' 

‘Felly mae angen i ni ddatblygu ateb tymor byr i alluogi gwasanaethau iechyd allweddol eraill i weithredu mor normal â phosibl i ddiwallu anghenion parhaus cleifion. Yn syml, ni allwn gael cleifion Covid-19 yn rhannu cyfleusterau gyda chleifion sy’n cael eu trin am gyflyrau eraill.’ 

‘Mae gennym ysbytai maes dros dro mewn rhai ardaloedd, sydd heb eu defnyddio i raddau helaeth. Dylai'r Bwrdd Iechyd, ar y cyd ag awdurdodau eraill, edrych ar ddefnyddio'r safleoedd hyn i leihau'r risg o’r haint gael ei drosglwyddo yn ein hysbytai cyffredinol.' 

'Mae angen sicrwydd cadarn ar gleifion ledled gogledd Cymru bod Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd lleol wedi ystyried eu hanghenion ac y cânt eu gweld a'u trin.' 

'Rhaid iddynt sicrhau cleifion y gellir ailddechrau gwasanaethau llawn yn ddiogel a bod y rhai sydd angen eu trin yn derbyn y gofal priodol ac amserol.' 

Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS, 

'Rhaid i'r cleifion hynny sydd ar restr aros hirfaith o ganlyniad i'r pandemig Coronafirws fod yn dawel eu meddwl bod popeth bellach yn cael ei wneud i gyflymu eu gofal.' 

'Mae'n ddyletswydd ar y bwrdd iechyd lleol a llywodraeth Cymru i weithio gydag eraill ac ystyried pob ateb posibl i sicrhau parhad gofal i gleifion ledled gogledd Cymru.' 

Referral to Treatment as at 31st July 2020, 2019 and 2018

 

 

 

 

 

 

 

 

 

as at 31st July

% within 26 Weeks

Number over 36 weeks

36 week waiter % Increase as at 31/07/20

Number over 52 Weeks

52 week waiter % increase as at 31/07/20

 

2020

55.29%

30,167

 

10,904

 

 

 

2019

82.00%

8,900

339%

2,496

437%

 

 

2018

85.81%

6,631

455%

2,277

479%

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.