Heddiw, bydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr, fel jet sgis, yn yr un modd ag y mae beiciau modur yn cael eu rheoli dan ddeddf gwlad ar y ffordd.
“Ydi’r boblogaeth yng Nghymru yn sylweddoli mai Cymru a gwledydd o fewn y Deyrnas Gyfunol ydi’r unig rai yn Ewrop sy’n gadael i ddefnyddwyr jet sgis yrru ar hyd ein dyfroedd heb ddim math o gyfyngiadau?” holodd y Cynghorydd Gareth Thomas sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau a datblygu’r economi yng Ngwynedd.
“Mae’r Deyrnas Gyfunol yn yr un categori â’r Aifft, heb ddim canllaw, deddf na rheol i bobl ddefnyddio’r peiriannau pwerus personol yma yn gyfrifol ar hyd ein moroedd.”
“Fydden ni ddim yn gadael i’n plant na’n hwyrion deithio hyd a lled ein ffyrdd yng Ngwynedd ar gefn moto-beic. Ond does run deddf mewn lle i atal i blentyn 12 oed rhag neidio ar gefn y peiriannau pwerus yma a chwarae mig ar y dŵr. Does dim synnwyr yn y peth!
“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth yn San Steffan ddeffro i’r broblem hon, gan sicrhau bod jet sgis yn cael eu cofrestru a’i diffinio fel “cwch” o fewn y Ddeddf i sicrhau eu bod yn dod o dan yr un rheoliadau a defnyddwyr cerbydau pŵer eraill ar y môr yng Nghymru.”
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Trafnidiaeth yn gynharach eleni, mae Cymdeithas Harbwrfeistri y Deyrnas Gyfunol wedi pwyso am gau’r bwlch yn y ddeddf gan ddiffinio’n glir bod jet sgi yn cael ei gydnabod fel cwch neu long.
Yn Ngwynedd, mae ardaloedd fel Bermo a Morfa Bychan yn gweld defnyddwyr cyson ar yr arfordiroedd ac mae busnesau yn adrodd bod cynnydd o dros 30% yng ngwerthiant y cerbydau pŵer hyn eleni.
Yn ôl y Cynghorydd Gethin Glyn Williams, Bermo: “Y pryder sydd gennym ni yw y bydd y cynnydd yn y gwerthiant eleni yn golygu cynnydd yn y defnyddwyr fydd yn ymweld y flwyddyn nesaf, wrth i gyfyngiadau Covid19 amharu ar allu pobl i fynd ar wyliau tramor.
“Rydym yn croesawu ymwelwyr i’r ardal ac mae’r mwyafrif o’r defnyddwyr jet sgis yn gall ac yn gyfrifol. Y niferoedd bychain o’r rhai sy’n ymddwyn yn anghyfrifol, yn gwibio yn gyflym rhy agos i bobl eraill sy’n mwynhau yn y dŵr, ac yn goryrru wrth deithio yn agos at y lan sy’n achosi’r problemau.
“Dylai bod hyfforddiant, trwyddedu, yswiriant, gwisgo offer diogelwch fel helmed a siaced achub, ardaloedd penodol diogel ar gael ar gyfer defnyddwyr jet sgi i fwynhau yn dod i rym, fel rhan o’r ddeddf. A chyda hynny, wrth gwrs, mae angen adnoddau ychwanegol ar adrannau morwrol awdurdodau lleol i oruchwylio yn ystod y cyfnodau prysuraf o’r flwyddyn.”
Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths, sy’n cynrychioli gorllewin Porthmadog a thraeth y Greigddu, Morfa Bychan, lle mae ymwelwyr wedi heidio i fwynhau glan môr dros yr haf: “Mae swyddogion morwrol y Cyngor yr un mor rhwystredig ag ydyn ni, gyda’r diffyg rheoliadau sydd ar gael i oruchwylio jet sgis. Mae’n hen bryd bod mesurau mewn lle i sicrhau bod pawb - o ddefnyddwyr jet sgis i nofwyr i badl fyrddwyr a theuluoedd yn cael y rhyddid i fwynhau hamddena yn ddiogel ac yn gyfrifol.”
Bu dwy farwolaeth yn ymwneud â jet sgis ar arfordir Gwynedd a Môn ym mis Awst eleni.
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, “Dyw Gwynedd ddim yn unigryw yn hyn o beth, mae ardaloedd yng Ngheredigion, Sir Benfro, Cernyw a Dyfnaint, i enwi dim ond rhai, yn adrodd am broblemau tebyg.
“Yn y cyngor llawn heddiw, byddai’n holi i weddill cynghorwyr Gwynedd fy nghefnogi yn fy nghais i alw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir.
“Dylai bod pob cerbyd dŵr personol yn cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant a'i wybodaeth o reolau mordwyo.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter