Mae’r penderfyniad i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng a chanoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru yn mynd yn groes i fuddiannau cymunedau ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru.
Rydym ymhell o fod yn sicr na fydd yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o’r cynlluniau hyn fel Pen Llŷn a de Meirionnydd yn cael eu gadael gyda gwasanaeth is-safonol. Rydym yn gweithio gydag ymgyrchwyr i herio'r penderfyniad.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter