Croesawu rhyddhau adroddiad i fewn i uned iechyd meddwl Ysbyty Gwynedd

Mae’r newyddion fod y Comisiynydd Gwybodaeth am orfodi y Bwrdd Iechyd i ryddhau adroddiad llawn i fewn i Uned Iechyd Meddwl Hergest, wedi cael ei groesawu gan ymgyrchydd iechyd.

 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, cadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru – a sefydlwyd wyth mlynedd yn ôl i ymladd yn erbyn rhai o’r newidiadau i wasanaethau iechyd y gogledd, ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd – mai ei obaith oedd y byddai cyhoeddi’r adroddiad yn gam pwysig tuag at tynnu’r gwasanaeth iechyd allan o fesurau arbennig.

Comisiynwyd adroddiad Holden er mwyn edrych ar Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, ac fe’i gyhoeddwyd yn 2015. Serch hynny, daliodd y Bwrdd Iechyd elfennau o’r adroddiad yn ôl.

Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig gan y llywodraeth bum mlynedd yn ôl.

Meddai Mabon ap Gwynfor, 

'Comisiynwyd adroddiad Holden er mwyn edrych ar broblemau difrifol yn Uned Hergest yn dilyn pryderon gan aelod staff a chwythodd y chwiban. Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn sgil hynny yn hynod feirniadol, ac arweiniodd at newidiadau yn y gwasanaeth iechyd meddwl.

'Ond ni ryddhawyd pob darn o’r adroddiad, ac mae wedi cymryd pum mlynedd er mwyn cyrraedd y pwynt yma efo’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorfodi’r Bwrdd i ryddhau’r adroddiad yn llawn. Dylid croesawu hyn'.

'Rhoddwyd y Bwrdd i fewn i fesurau arbennig am sawl rheswm. Y mwyaf yn eu plith oedd pryderon am wasanaethau iechyd meddwl, ac hefyd y gagendor anferthol rhwng y gweithlu ar lawr y ward a’r rheolwyr yn y Bwrdd ei hun. Mae adroddiad Holden yn cwmpasu y ddeubeth yma.' 

'Rhaid cael tryloywder os ydy’r Bwrdd am am ail adeiladu hyder ymhlith y boblogaeth maen nhw’n ei wasanaethu. Mae hefyd yn bwysig eu bont yn cydnabod bai ac yn dangos fod gwersi yn cael eu dysgu.

'Mae hyn yn bosib os ydym yn gwybod hyd a lled y problemau a pha gamau a gymerwyd I ddatrys y problemau hynny yn llawn. Dim ond wedyn y gwelwn ni’r Bwrdd yn dechrau adennill hyder trigolion gogledd Cymru, ac y gallwn oll symud ymlaen.

'Bydd rhyddhau’r adroddiad llawn yn gam tuag at dynnu’r Bwrdd allan o fesurau arbennig”.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd