ADFER GWASANAETH SWYDDFA BOST MEWN DWY GYMUNED

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi croesawu’r newyddion bod dwy gymuned yn Nwyfor Meirionnydd wedi cael eu gwasanaethau Swyddfa’r Post wedi’u hadfer, yn dilyn ymgyrch ar y cyd i wella mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio.

Mae'r gwasanaeth wedi'i adfer i bentref Sarn, Pwllheli a gaeodd yn 2015 a bydd ar agor ddydd Mawrth rhwng 10.00yb a 12.00yp yn siop Cig Ceirion, Waterloo House.

Mae gwasanaeth hefyd wedi ei adfer yn Harlech, sydd wedi dioddef yn sylweddol o ddiffyg mynediad at arian a bydd yn gweithredu o Gaffi Llew Glas, y Stryd Fawr ar ddydd Llun a dydd Mercher rhwng 10.00yb a 12.00yp. Bydd y ddau wasanaeth yn cael eu gweithredu gan y Postfeistr o Cricieth.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, ‘Rwy’n falch iawn bod gwasanaethau swyddfa bost wedi cael eu hadfer yn rhannol i gymunedau yn Sarn a Harlech, gan fod o fudd i etholwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan golli gwasanaethau ariannol.’

‘Mae colli gwasanaethau wedi effeithio’n ddifrifol ar Harlech yn benodol, gyda’r peiriant ATM rhad ac am ddim agosaf 10km i ffwrdd.’

‘Yn ogystal âg adfer gwasanaethau swyddfa bost, rwyf wedi gofyn yn ffurfiol i LINK osod peiriant ATM parhaol i’w ddefnyddio yn Harlech, sy’n dioddef yn anghymesurol o ddiffyg gwasanaethau ariannol.’

‘Mae Swyddfa’r Bost yn un o’r gwasanaethau hanfodol hynny y dylai unrhyw bentref allu eu cynnig, er efallai mai dim ond pan nad yw ar gael y mae llawer o bobl yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd.’

‘Mae’n adnodd gwerthfawr i lawer o bobl yn fy etholaeth, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt fynediad at fancio ar-lein, ac mae adfer y swyddfa bost yn Sarn a Harlech, yn dangos bod galw am y gwasanaeth.’

‘Rwy’n falch bod darpariaethau’n cael eu gwneud i helpu fy etholwyr a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Gynghorydd Harlech, Freya Bentham a Harlech ar Waith, yr wyf wedi gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau’r newid hwn. Diolch hefyd i Bostfeistr Cricieth am gamu mewn i’r bwlch. ’

‘O ganlyniad i gau banciau lleol, mae Swyddfa’r Post yn chwarae rhan hanfodol mewn cynhwysiant ariannol ac mae ei phresenoldeb mewn trefi a phentrefi ar draws Dwyfor Meirionnydd bellach yn bwysicach nag erioed.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.