loading

Croeso i dudalen Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.

Yma cewch wybodaeth am weithgareddau diweddaraf cynrychiolwyr y Blaid yma, sy'n ymladd drosoch chi, pobl Dwyfor-Meirionnydd.

Newyddion diweddaraf

CYMUNED YN TEIMLO’N YNYSIG WRTH I WASANAETH POBLOGAIDD Y T2 GEFNU Â GARNDOLBENMAEN

Mae penaethiaid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i wyrdroi penderfyniad i gael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i wrthwynebu penderfyniad i diddymu’r gwasanaeth allweddol. Hyd at yn ddiweddar, roedd Garndolbenmaen yn cael ei wasanaethu gan 18 gwasanaeth bws T2 bob dydd a 5 gwasanaeth ar y Sul. Ond yn dilyn newid i’r amserlen, mae'r gwasanaethau hynny bellach wedi'u dileu, gan achosi pryder yn y gymuned leol.  
Darllenwch fwy

Rhoi trefn ar gytundeb y DVLA yn bygwth dyfodol y gwasanaeth

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts yn rhybuddio bydd cael mynediad i wasanaethau mewn swyddfeydd post lleol yn dod yn fwyfwy anodd os na fydd llywodraeth San Steffan yn cymryd camau ar unwaith i gryfhau’r rhwydwaith.   Cyfarfu Mr ap Gwynfor â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) yn y Senedd yn ddiweddar, lle y rhannwyd pryderon ynghylch hyfywedd y rhwydwaith yn y dyfodol a’r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol megis bancio ac adnewyddu trwyddedau gyrru dros y cownter.  
Darllenwch fwy

BLOG: Llymder, yr Argyfwng Costau Byw a'r Torïaid – Mabon ap Gwynfor

Mae pobl Cymru wedi dangos gwydnwch rhyfeddol dros y deng mlynedd diwethaf. Yn wyneb llymder llethol – yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol, Brexit, ac yn fwy diweddar y pandemig byd-eang – mae’n syndod ar un olwg bod pobl a chymunedau wedi llwyddo i oroesi.
Darllenwch fwy

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.